Mae Andy yn gosod y sylfeini ar gyfer ei ddyfodol

Andy Wilmer works for VINCI Construction UK

Mae Andy Wilmer yn gwybod o brofiad pa mor bwysig yw hi i edrych i’r dyfodol a bod yn hyblyg.

Gwasanaethodd yn y Peirianwyr Brenhinol am 13 mlynedd a cafodd ei hyfforddi fel peiriannydd brwydro a pheiriannydd gwresogi a phlymio. Pan nad oedd ar weithrediadau brwydro, treuliodd Andy ei amser yn hyfforddi ar wahanol arbenigeddau, fel adeiladu pontydd, dymchwel, cyflenwi dŵr ac adeiladu.

Yn dilyn anaf, cafodd Andy ei ryddhau’n feddygol o’r Fyddin a sicrhaodd ei rôl bresennol, yn dilyn cefnogaeth gan BuildForce, sefydliad sy’n cysylltu pobl sy’n gadael y lluoedd arfog â gyrfaoedd adeiladu. Mae Andy bellach yn gweithio fel goruchwyliwr adeiladu gyda VINCI Construction UK.

“Pan adewais y Fyddin, roeddwn i’n gwybod fy mod eisiau parhau i weithio, ac mae gen i deulu i’w cynnal, felly roedd cael swydd arall yn hanfodol.

“Roedd y newid hwn yn fy mywyd yn gyfle da i mi wneud rhywfaint o gynllunio ariannol, a meddwl am faint o amser y byddwn yn ei weithio cyn fy ymddeololiad.

“Penderfynais wirio fy Mhensiwn y Wladwriaeth i weld pa mor hen y byddwn i pan fyddwn yn gymwys, a faint y gallai fod. Roedd yn hawdd gwneud hynny, gan fod gwefan GOV.uk yn gofyn am wybodaeth sylfaenol i gadarnhau fy hunaniaeth ac roedd hwn gennyf wrth law.

“Byddaf yn cael pensiwn gan y Fyddin pan fyddaf yn ymddeol, ond bydd y gwaith rwyf yn ei wneud nawr ac yn y dyfodol yn cyfrannu at fy nghronfa bensiwn. Rwy’n talu i mewn i’m pensiwn gweithle newydd, ac felly hefyd mae fy nghyflogwr. Mae’n bwysig iawn parhau i gynilo er mwyn cael yr ymddeoliad dwi eisiau.

“Rwyf yn 35, ac mae gennyf feddwl agored am fy ngyrfa yn y dyfodol. Rwyf wedi trosglwyddo llawer o sgiliau o’r fyddin i’r byd sifil, ac rwy’n gyffrous ynglŷn â symud i ail yrfa.

“Fe wnaeth y Fyddin ddysgu disgyblaeth, gallu i addasu ac arweinyddiaeth i mi – a’r gallu i feddwl ymlaen. Rwy’n dod o hyd i atebion i broblemau bob dydd, ac mae gweithio mewn tîm yn allweddol.

“Fy nghyngor i eraill sy’n meddwl am weithio’n wahanol yw cymryd agwedd ymarferol, ond agored.

“Meddyliwch am eich sgiliau trosglwyddadwy, gwnewch eich ymchwil a chanolbwyntiwch ar yr hyn y gallwch ei gynnig. Mae arian yn bwysig iawn hefyd, felly gwnewch rywfaint o gynllunio ariannol sylfaenol fel gwirio eich Pensiwn y Wladwriaeth, dod i wybod am unrhyw bensiynau preifat sydd gennych a meddwl am sut y gallwch weithio i gefnogi eich dyfodol chi a’ch teulu.”

Gwiriwch eich Pensiwn y Wladwriaeth a dechreuwch gynllunio ar gyfer eich dyfodol.