1. Bydd gennyf Bensiwn y Wladwriaeth, nid oes angen i mi gynilo

Cyfradd lawn Pensiwn newydd y Wladwriaeth yw £203.85 yr wythnos, sydd dros £10,600 y flwyddyn. Mae hyn yn dibynu ar eich cofnod Yswiriant Gwladol. Gwiriwch eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein i ddarganfod beth allech chi ei gael a phryd y gallwch ei gael.

Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn darparu’r sylfaen ar gyfer eich incwm ymddeoliad. Ond mae cynilo i mewn i bensiwn gweithle, pensiwn personol, neu mewn ffyrdd eraill, yn golygu y byddwch wedi paratoi’n well i gael yr ymddeoliad rydych ei eisiau.

2. Byddaf yn cael fy ngorfodi i ymddeol pan fyddaf yn cyrraedd fy oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Nid oes rhaid i ymddeoliad fod yn llinell derfyn.

Nid oes rhaid i chi roi’r gorau i weithio oherwydd eich bod wedi cyrraedd oedran penodol. I lawer o bobl, gall gweithio mewn ffordd wahanol fod yn bont dda i ymddeoliad. Mae aros yn y gwaith yn golygu y gallwch barhau i ennill a pharhau i gynilo hefyd. Gallai arafu, gweithio’n hyblyg neu hyd yn oed wneud swydd wahanol fod y peth iawn i chi.

Gall MOT canol oes eich helpu i gael yr ymddeoliad rydych ei eisiau, gydag arweiniad ynghylch eich arian, eich gwaith a’ch iechyd.

3. Efallai na fyddaf yn byw yn hir iawn ar ôl ymddeol, pam trafferthu cynilo?

Mae pobl yn tueddu i danamcangyfrif pa mor hir y maent yn debygol o fyw, ac mae disgwyliad oes wedi cynyddu yn y degawdau diwethaf, sy’n golygu bod pobl yn byw’n hirach.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae’r rhan fwyaf o oedolion yn disgwyl ymddeol rhwng 65 a 69 oed, sy’n golygu os ydych yn debygol o fyw i tua 85, byddai angen darpariaeth ymddeoliad arnoch am tua 20 mlynedd.

Mae byw’n hirach yn golygu efallai y bydd yn rhaid i chi gynilo mwy i gael yr ymddeoliad rydych ei eisiau. Dechrau da yw edrych ar ba gynlluniau pensiwn sydd gennych eisoes a sut y gallwch eu gwella.

4. Fy mhensiwn fydd ond beth y byddaf yn ei dalu i mewn

Mewn gwirionedd mae dwy ffordd i chi gael mwy na rydych wedi ei dalu i mewn gyda phensiynau. Yn gyntaf, gyda phensiynau gweithle, pan fyddwch yn talu i mewn, mae eich cyflogwr yn gwneud hynny hefyd – sydd i gyd yn mynd i mewn i’ch cronfa bensiwn.

Yn ail, drwy adlog, gallwch ennill ‘llog ar log’ ar eich cynilion pensiwn. Gall hyn wneud gwahaniaeth mawr i faint yw gwerth eich cynilion dros y tymor hir. Darganfyddwch beth mae adlog yn ei olygu i’ch pensiwn.

6. Ni fydd fy mhensiwn yn cael ei ddiogelu

Mae pensiynau’n cael eu diogelu mewn gwahanol ffyrdd i wneud yn siŵr nad ydych yn colli allan. Darganfyddwch sut yn y fideo hon. 

Gallwch hefyd ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ba mor ddiogel yw eich pensiwn yn HelpwrArian.  

7. Nid oes angen i mi adolygu fy nghynlluniau pensiwn

Yn ôl arolwg yr FCA ar effaith Coronafeirws, mae tua hanner y boblogaeth wedi adolygu eu cronfa bensiwn yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae adolygiad blynyddol o’ch cynlluniau ymddeol yn arferiad gwych. Nid oes rhaid iddo gymryd yn hir ac os nad yw eich amgylchiadau wedi newid, efallai nad oes angen i chi newid unrhyw beth. Ond mae adolygu eich cynlluniau yn rheolaidd yn eich helpu i sicrhau eich bod ar y trywydd iawn. Dylech hefyd sicrhau bod eich holl fanylion personol yn gyfredol.

Efallai y byddwch yn derbyn datganiad blynyddol gan ddarparwr eich pensiwn. Gall hwn fod yn fan cychwyn defnyddiol.  

8. Mae’n anodd dod o hyd i wybodaeth ddiduedd am bensiynau

Mae HelpwrArian yn ffynhonnell o arweiniad ariannol arbenigol diduedd a gefnogir gan y llywodraeth. P’un a ydych angen help i gronni cynilion pensiwn neu eisiau gwybod mwy am opsiynau i gael mynediad at eich arian, gall HelpwrArian eich helpu i ddod o hyd i ffordd ymlaen. Ewch i moneyhelper.org.uk/pensions neu ffoniwch 0800 011 3797 i siarad ag arbenigwr pensiynau annibynnol.