Help a chefnogaeth
Gall deimlo’n anodd gwybod ble i ddechrau gyda chynllunio ar gyfer ymddeoliad, ond mae rhai adnoddau gwych ar gael i’ch rhoi ar y trywydd cywir.
Mae HelpwrArian yn ffynhonnell o arweiniad ariannol arbenigol diduedd a gefnogir gan y llywodraeth. P’un a ydych angen help i gronni cynilion pensiwn neu eisiau gwybod mwy am opsiynau i gael mynediad at eich arian, gall HelpwrArian eich helpu i ddod o hyd i ffordd ymlaen.
Ewch i moneyhelper.org.uk/pensions neu ffoniwch 0800 011 3797 i siarad ag arbenigwr pensiynau annibynnol.
Gallwch hefyd ddod o hyd i fwy o adnoddau am gynllunio eich incwm ymddeoliad ar GOV.UK.